Newyddion

Lansiad Ymgyrch 2026

Lansiodd Plaid Cymru ymgyrch y blaid yn etholaeth Caerdydd Penarth ar nos Fawrth 18 Tachwedd.

  • Lansiad Ymgyrch 2026

    Lansiodd Plaid Cymru ymgyrch y blaid yn etholaeth Caerdydd Penarth ar nos Fawrth 18 Tachwedd.

  • Mae eich Senedd yn newid

    Ym mis Mai 2026, bydd y ffordd y byddwch chi'n pleidleisio dros Aelodau o'r Senedd yn newid.

     

    Bydd pawb yn cael un bleidlais ar y 7fed o Fai 2026. Bydd y system rhestr gyfrannol gaeedig newydd yn golygu y byddwch yn pleidleisio dros blaid wleidyddol.

     

    Bydd pob plaid yn derbyn seddau yn ôl canran y bleidlais iddyn nhw ennill. Bydd pob etholaeth yn ethol 6 Aelod o'r Senedd.

     

    Mae eich etholaeth newydd, sef Caerdydd Penarth, wedi cael ei chreu trwy gyfuno Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth.

     

    Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Senedd Newidiadau i Etholiadau ac Aelodau'r Senedd

     

    Ar wefan y Senedd rydych chi'n gallu rhoi eich cod post i ddod o hyd i'ch etholaeth newydd ar gyfer 2026. Dewch o hyd i'ch etholaeth yma.

     

    Cymerwch olwg ar fap o'r etholaeth newydd yma.